Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Steve Ashcroft, Swyddfa Archwilio Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Lisa Dunsford, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
1.2 Nodwyd y papurau.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
4.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybod i'r Pwyllgor am ei hadroddiad diweddar ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG - Adroddiad Dilynol.
5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, a Lisa Dunsford, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Integreiddio, Polisi a Chyflawni.
5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
· egluro pa gyfran o'r 20 o achosion gan ddau fwrdd iechyd yn sampl yr archwiliad oedd yn ymwneud ag anabledd dysgu neu ddementia a rhannu canlyniadau'r adolygiad o'r achosion hynny;
· cadarnhau pa fwrdd iechyd dynnodd yn ôl o'r gwaith o brofi'r Offeryn Gwneud Penderfyniadau;
· darparu nodyn ar yr anawsterau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u hwynebu yn recriwtio i rolau proffesiynol a chadarnhau a ydynt bellach yn gweithredu'n llawn; a
· darparu nodyn am faint y tendr o fewn pob bwrdd iechyd mewn perthynas â'r gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer gofal iechyd parhaus.
6 Gofal heb ei drefnu: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur wedi'i ddiweddaru a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
7 Rheoli effaith y newidiadau i ddiwygiadau lles: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Reoli Effaith y Newidiadau i Ddiwygiadau Lles.